Pe bai’r rhagolygon am stormydd a glaw trwm heno (nos Iau, Awst 8) yn carl eu gwireddu, mae rhai o stiwardiaid y brifwyl yn dweud y byddan nbw’n pacio’u pethau ac yn mynd adref am Loegr.

Mae’n ymddangos, os y daw glaw trwm, mellt a tharanau, y gallai sawl agwedd o’r eisteddfod ar gyrion Llanrwst gael eu “cau i lawr”.

Eisoes, mae eisteddfodwyr sy’n dod bob dydd yn dweud yn agored eu bod am gadw draw ar seithfed dydd y gweithgareddau yn Sir Conwy, fory (dydd Gwener, Awst 9).

Mae gwersyllwyr pebyll wedi derbyn rhybuddion gan y trefnwyr ar gyfer y peryglon posib.

Does yna ddim y fath drafod wedi bod ar y tywydd ag sydd wedi digwydd ynglyn â’r brifwyl eleni.

Doedd y trefnwyr ddim yn siwr, hyd at dri mis yn ôl, lle’n union y byddai’r Maes eleni, a hynny oherwydd bod y caeau gwreiddiol yn rhan o orlifdir afon Conwy.