Mae adroddiad y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd wedi cael ei groesawu gan Hybu Cig Cymru, sy’n dweud ei fod yn dangos sut y gall ffermio ar batrwm Cymru fod o fudd i’r amgylchedd.

Maen nhw’n dweud mai’r wasg a’r cyfryngau sydd wedi troi’r adroddiad yn un ‘gwrth-gig’ a’i fod mewn gwirionedd yn cefnogi ffermio llai dwys, fel sydd yng Nghymru.

“Mae awduron yr adroddiad yn dweud yn glir bod angen i bobol fwyta diet cytbwys – cyfuniad o gynhyrchion sy’n seiliedig ar blanhigion, yn ogystal â bwyd o anifeiliaid sy’n cael eu ffermio’n gynaliadwy,” meddai Gwyn Howells, Prif Weithredwr Hybu Cig Cymru.

“Mae e hefyd yn rhybuddio rhag tynnu tir allan o gynhyrchu bwyd, gan ddadlau y gallai hyn effeithio ar ddiogelwch bwyd byd-eang.”

Ffermio cynaliadwy

Yn ôl Dr Prysor Williams, Uwch Ddarlithydd mewn Rheolaeth Amgylcheddol ym Mhrifysgol Bangor, mae angen “rhoi sylw mwy cytbwys” i argymhellion yr adroddiad.

“Mae yna ffyrdd y gall ffermio Cymru ddod yn fwy cynaliadwy fyth, ond mae’n bwysig cydnabod nad yw pob system o gynhyrchu yr un peth,” meddai.

“Yng Nghymru mae ffermio cig oen ac eidion yn isel o ran dwyster i raddau helaeth. Mae’r rhan fwyaf o’r bwyd sydd ei angen ar yr anifeiliaid yn dod o borfa naturiol, ac mae’r glaswelltir hwnnw yn helpu i ddal carbon os caiff ei reoli’n effeithiol.

“Mae 80% o dir amaethyddol Cymru yn anaddas ar gyfer tyfu cnydau,” meddai wedyn.

“Mae ffocws yr IPCC ar ddiogelwch bwyd yn dangos y gall gwneud y gorau o dir o’r fath, trwy droi porfa yn brotein yn effeithlon, gynhyrchu rhan bwysig o’r diet cytbwys sydd ei angen ar y boblogaeth fyd-eang.”

Yr adroddiad

Mae ‘Newid Hinsawdd a Thir’ wedi ei gynllunio gan y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC) er mwyn llywio polisïau llywodraethol ledled y byd.

Mae’n rhybuddio bod lleihau nwyon tŷ gwydr o bob sector yn hanfodol i atal cynhesu byd-eang, ac hefyd yn pwysleisio’r angen i dir aros yn gynhyrchiol er mwyn sicrhau diogelwch bwyd.