Mae’n bwysig bod yr Eisteddfod yn “agor drysau” ac yn “creu dolennau” â chenhedloedd Celtaidd  eraill, meddai’r archdderwydd newydd.

Wrth lansio “ymgyrch archdderwydd” ar fael y brifwyl yn Llanrwst, fe ddywedodd ei fod eisiau magu cysylltiadau cryfach rhwng Cymru a gwledydd Celtaidd eraill yn ystod ei gyfnod yn Archdderwydd.

“Rydan ni’n dechrau sylweddoli yn yr Orsedd bod gynnon ni rywbeth arbennig iawn sydd o ddiddordeb y tu hwnt i ffiniau Cymru,” meddai – adeg cyhoeddi Eisteddfod 2020, roedd yn feirniadol o’r agweddau ynysig y tu cefn i Brexit.

“Mae cyfarfod â [phobol o wledydd Celtaidd] wedi pwysleisio i mi pa mor bwysig ein bod ni fel Cymry, yn yr Eisteddfod, yr Orsedd, ac fel diwylliant, yn dechrau meithrin dolennau gyda gwledydd tramor… Mae’r diddordeb tu hwnt i wledydd Celtaidd, a dweud y gwir…”

Roedd “cyfnewid cyson” rhyngddo ef a gwledydd Celtaidd eraill, meddai, ac roedd wedi cwrdd â chynrychiolwyr o’r gwledydd yma yn ddiweddar.

Lladd ar Visit Britain

Yn ystod ei anerchiad, roedd hefyd yn feirniadol o wefan hyrwyddo’r Deyrnas Unedig, Visit Britain, ac yn eu cyhuddo o beidio â hybu Cymru.

“Mae Cymru i fod i gael ei hyrwyddo dramor, ar wefan Visit Britain,” meddai. “Croeso i chi fynd at hwnnw a chwilio am wybodaeth am yr Eisteddfod neu am Gymru hyd yn oed.

Yr hyn sydd yna, meddai yw pPethau fatha ‘Hundred Things to Do in London’ a  ’50 Picnic Places Within One Hour of London’.”