Roedd 6,000 yn llai o wrandawyr wedi tiwnio i mewn i Radio Cymru yn ystod misoedd Ebrill, Mai a Mehefin nag yn ystod y chwarter cyn hynny – 12,000 yn llai o gymharu â chwe mis yn ôl.

Yn ôl RAJAR, y corff sy’n casglu gwybodaeth am y byd darlledu, mae nifer gwrandawyr yr orsaf Gymraeg wedi gostwng o’r cyfartaledd o 118,000 i 112,000 yr wythnos yn ystod y tri mis sy’n arwain at ddiwedd Mehefin.

Ond tra bod y ffigyrau yn cynnwys gwrandawyr gwasanaethau Radio Cymru 2 a’r orsaf draddodiadol, dyw nifer y bobol sy’n gwrando ar-lein ar wasanaeth iPlayer, neu wrando ar bodlediadau, ddim wedi eu cynnwys.

Y ffigyrau’n gostwng

Fe wnaeth 118,000 o bobol wrando ar yr orsaf yn ystod y tri mis rhwng Ionawr, Chwefror a Mawrth, o gymharu â’r 124,000 oedd yn gwrando cyn hynny (Hydref, Tachwedd, Rhagfyr).

Mae yna gynnydd fel arfer yn ystod misoedd y gaeaf ond mae’r ffigurau ar gyfer mis Mehefin eleni yr un peth yn union ag yr oedden nhw flwyddyn yn ol.

Fe ddaw’r canlyniadau diweddaraf lai na blwyddyn ers i Rhuanedd Richards ddechrau ar ei gwaith yn Olygydd newydd BBC Radio Cymru a’r gwasanaeth newydd ar-lein, BBC Cymru Fyw. Fe olynodd Betsan Powys yn y swydd.

Meddai Radio Cymru: “Mae ffigyrau RAJAR yn cynnig cipolwg ar arferion gwrando byw ein cynulleidfaoedd. Mae’r ffigyrau a gafodd eu rhyddhau yr wythnos diweddaf yr un peth ag yr oedden nhw flwyddyn yn ol.”