Mae cwmni theatr ar gyfer pobol ifanc wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer creu “hwb creadigol pwrpasol” gwerth £3.2m ynghanol dinas Bangor.

Yn ôl rheolwyr Cwmni’r Frân Wen, y bwriad yw trawsnewid hen Eglwys Santes Fair “yn hwb i artistiaid ifanc a newydd yng ngogledd Cymru”.

Enw’r ganolfan newydd ar Ffordd Garth fydd ‘Nyth’, a bydd yn cynnwys “gofodau ar gyfer ymarferion, gweithdai a pherfformiadau ar raddfa fechan ar gyfer amrywiaeth o brosiectau creadigol.”

Yn sgil prynu’r lle, mae’r cwmni yn rhagweld y bydd y “cam datblygol” yn parhau am 12 mis, cyn y bydd amserlen bellach yn cael ei ryddhau.

Mae cynlluniau ar gyfer y cartref newydd wedi cael eu datblygu gyda phobol ifanc o bob rhan o ogledd-orllewin Cymru, ac mae wedi derbyn cefnogaeth gan wahanol gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Cyngor Celfyddydau Cymru.

Gwneud y celfyddydau yn “fwy hygyrch a pherthnasol”

Cafodd Cwmni’r Frân Wen ei sefydlu yn 1984, ac mae’n canolbwyntio ar ddarparu rhaglen o gynyrchiadau theatr drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer pobol ifanc yng ngogledd Cymru a thu hwnt.

Ar hyn o bryd, mae pencadlys y cwmni wedi ei leoli ym Mhorthaethwy.

Yn ôl Irfon Jones, cadeirydd bwrdd annibynnol Cwmni’r Frân Wen, mae am i’r celfyddydau fod yn “fwy hygyrch a pherthnasol” ar gyfer pobol ifanc.

“Mae cysyniad Nyth yn seiliedig ar gydweithio a bydd yn galluogi Frân Wen i ffynnu’n artistig a datblygu partneriaethau newydd er mwyn hyrwyddo grym trawsnewidiol y celfyddydau mewn meysydd yn cynnwys iechyd a lles a dysgu creadigol,” meddai.

“Mae’r celfyddydau yn rhan hanfodol o gyfansoddiad a bywiogrwydd ein cymunedau ac ar adeg pan fo gofodau a chyfleoedd i bobol ifanc yn arbennig yn brin, rydym am greu hafan ddiogel i’w meithrin a’u cefnogi ar amser mor allweddol yn eu bywydau.”

Ychwanega Nia Jones, y Cyfarwyddwr Gweithredol, y bydd Nyth yn caniatáu’r cwmni i ddal ati i “gyflwyno gweithgareddau celfyddydol o ansawdd uchel i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o bobol ifanc greadigol a mentrus.”