Bardd ifanc o Bwllheli, Guto Dafydd, sydd wedi cipio Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy eleni.

Daeth i’r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 29 o geisiadau.

Mae’r Goron yn cael ei chyflwyno am ddilyniant o gerddi heb fod mewn cynghanedd, ac heb fod dros 250 o linellau, ar y pwnc Cilfachau.

Y beirniaid oedd Manon Rhys, Ceri Wyn Jones a Cen Williams.  Mae’r wobr ariannol yn cael ei rhoi gan John Arthur a Margaret Glyn Jones a’r teulu, Llanrwst.

Wrth draddodi’r feirniaidaeth ar ran ei gyd-feirniaid, meddai Ceri Wyn Jones: “Ro’dd hon yn gystadleueth gref, ac ma’n drueni mowr na cha’ i gyfle pnawn ‘ma i sôn am fwy na phedwar o’r beirdd, sef Fersiwn Arall, OS, Saer nef, a’r Priddyn Coch. Ma’n deg dweud bod y canlynol hefyd yn ei sŵn hi, sef Mab â’i gerddi am golli’i dad a Non â’i gerddi i Lydaw, a bod un neu ddou arall wedi bod yn curo wrth y drws hefyd. Da chi, prynwch gyfrol y cyfansoddiade ddydd Gwener i glywed mwy o hynt a helynt y gystadleueth bryfoclyd hon.”

“Herio a phryfocio”

Wrth droi at waith yr enillydd, Saer nef, dywedodd Ceri Wyn Jones: “Ma brwsh Saer nef yn fwy bras nag un OS. Bron nad yw e’n ymwrthod ag arddull hunan-ymwybodol farddonol rhag iddo fe beidio â dweud ei ddweud: mae’n arddull fwy sgyrsiol uniongyrchol, weithie’n ddigon ffwrdd-â-hi ac amrwd, weithie’n dwyllodrus o goeth, ond y cwbwl yn swnio mor naturiol, hyd yn o’d yr iaith lafar lai na safonol ar brydie, a hyd yn o’d sigl cyfoes rhai o’i gerddi mydr-ac-odl.

“Ma’r llais gwahanol hwn yn ein herio, ein pryfocio, a’n hysgwyd. Mae’n hala ni i wherthin ac i dagu. Ac os nad yw wastad yn ddifrifol, y mae ynte, fel OS, yn fardd o ddifri.”

Roedd y beirniaid wedi gorfod trafod ac ail-drafod cyn dod i benderfyniad, meddai.

“Ma’ Manon Rhys am i’r goron fynd i OS, gyda Non, Fersiwn Arall a Mab ar ei sodle.  Ma’ Cen Williams am iddi fynd iSaer nef, gyda’r Priddyn Coch ac OS ar ei sodle.  Ma’ Ceri Wyn Jones am iddi fynd i Saer nef ac OS, ond o drwch y blewyn teneua yn hanes blew tene eriôd, Saer nef sy’ ar y bla’n, OS yn ail, a’r Priddyn Coch a Fersiwn Arall ar eu sodle nhw ‘fyd.

“Am gerddi sy’n ein difyrru, ein hanesmwytho a’n cyffroi, felly, ma’r Goron leni yn mynd i Saer nef, ac ma’r tri ohonon ni yn ei longyfarch yn fawr.”

Cystadlu

Daw Guto Dafydd yn wreiddiol o Drefor. Mae’n byw ym Mhwllheli gyda’i wraig, Lisa, a’r plant, Casi a Nedw.

Bu’n cystadlu’n frwd mewn eisteddfodau bach a mawr ers blynyddoedd. Enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd yn 2013, Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2014, a Gwobr Goffa Daniel Owen yn 2016. Ysgrifennodd y geiriau ar gyfer A Oes Heddwch, cyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol 2017.

Mae wedi darllen ei waith mewn festrïoedd, tafarndai, llyfrgelloedd, ysgolion a neuaddau, a thrafod llenyddiaeth yn aml mewn amryw gyhoeddiadau ac ar y teledu, y radio a’r we. Cyhoeddodd nifer o lyfrau, gan gynnwys cyfrol o farddoniaeth (Ni Bia’r Awyr) a dwy nofel (Stad ac Ymbelydredd, a enillodd Wobr Barn y Bobl, Llyfr y Flwyddyn 2017).

Graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor. Mae’n gweithio i Gomisiynydd y Gymraeg.

Mae’r Goron wedi’i dylunio a’i chreu gan y gemydd Angela Evans o Gaernarfon ac yn cael ei chyflwyno gan y gymdeithas dai, Grwp Cynefin.