Mae pryder wedi ei fynegi yn ardal Llanbedr Pont Steffan yn sgil y bwriad i gau’r ganolfan prawf gyrru yn y dref, gydag un athro gyrru lleol yn dweud y byddai’n “ergyd fawr”.

Mae’r Asiantaeth Safonau Gyrru wedi cadarnhau wrth golwg360 y bydd y prawf gyrru olaf yn y dref yn cael ei gynnal ar Awst 22.

Mae’r ganolfan wedi ei lleol yng Nghanolfan Dulais, ac yn ddiweddar fe gyhoeddodd perchnogion y safle fwriad i ddymchwel yr adeilad er mwyn codi swyddfeydd newydd yn ei le fel rhan o gynllun gwerth £3m.

Does dim cynlluniau ar hyn o bryd i adleoli’r ganolfan prawf gyrru, a bydd ei chau yn golygu y byddai’n rhaid i ddarpar-yrwyr deithio naill ai I Aberystwyth, Aberteifi neu Gaerfyrddin er mwyn sefyll prawf.

Cynyddu costau?

Yn ôl Richard Evans o gwmni Richard Evans School of Motoring, mae colli’r ganolfan yn Llanbedr Pont Steffan “yn mynd i wneud pethau’n anoddach i bawb”.

Mae’r athro yn cynnig gwersi gyrru dwys, sef cyfres o wersi mewn cyfnod o wythnos, ac yn defnyddio’r ganolfan yn y dref wledig yn rheolaidd.

“Mae’r amseroedd aros yn Aberteifi ac Aberystwyth, dybiwn i, yn gymharol uchel yn barod, felly mae [cau’r ganolfan yn Llanbed] yn mynd i ychwanegu at hynny,” meddai Richard Evans wrth golwg360.

“Dw i ond yn defnyddio Llanbed ac Aberteifi, felly nawr fe fydd angen i mi fynd i Aberystwyth sy’n golygu rhagor o gostau tanwydd.

“Bydd rhaid i fi naill ai gynyddu prisiau oherwydd fy mod i’n defnyddio mwy o danwydd, neu ddefnyddio Aberteifi yn unig ac, efallai, ddim gweithio bob wythnos gan nad oes profion ar gael yno,” ychwanega Richard Evans, sydd ar hyn o bryd yn cynnig gwersi gyrru am tua £25 yr awr.

“Os na alla i ddod o hyd i brawf un wythnos, yna fedra i ddim gweithio yr wythnos honno.”

Datganiad yr Asiantaeth Safonau Gyrru

“Blaenoriaeth y DVSA yw helpu pawb drwy oes o yrru’n ofalus…” meddai llefarydd ar ran yr asiantaeth.

“Mae cyrsiau yng Nghaerfyrddin ac Aberystwyth yn profi ymgeiswyr ar holl agweddau’r prawf gyrru newydd, sy’n golygu bod ymgeiswyr wedi eu paratoi’n well ar gyfer oes o yrru’n ofalus, gan wneud ffyrdd Cymru yn ddiogelach.”