Mae teyrnged wedi cael ei rhoi i’r ddynes a fu farw mewn damwain draffig ar ffordd yr A48 yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf.

Mae lle i gredu bod Judith Evans, 48, o ardal Rhydyfelin, wedi cael trafferthion â’u hiechyd pan wyrodd ei char oddi ar y ffordd am tua 11.45yb ar Orffennaf 31.

Mae teulu Judith Evans wedi talu teyrnged i’r ddynes a oedd yn bartner, yn fam ac yn fam-gu.

“Roedd gan Jude galon o aur, fel yr oedd ei gwaith fel gweithiwr gofal yn ei ddangos,” meddai’r datganiad. “Doedd dim yn ormod o drafferth i Jude, byth.

“Roedd hi hefyd yn adnabyddus ac yn cael ei charu o fewn y gymuned lle’r oedd ganddi fusnes tacsi.

“Roedd hi’n caru mynd dramor ar ei gwyliau, a bu bron iddi beidio â dychwelyd o Palm Springs yn California, ar ôl cael cynnig swydd. Ond roedd meddwl am ei hwyrion wedi dod â hi adref.”