Addewid o £110m ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru

 

Llun: CCO

Bydd £110m o arian ychwanegol ar gael ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, yn ôl Llywodraeth Prydain.

Daw yn sgil addewid gan y Prif Weinidog newydd, Boris Johnson, y bydd £1.8bn yn cael ei fuddsoddi yn y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr, addewid sydd wedi cael ei feirniadu gan arbenigwyr fel un sy’n “annigonol”.

Ac yn ôl Llywodraeth Cymru, dydyn nhw ddim “wedi derbyn manylion am y cyllid eto”, cyn ychwanegu y bydd unrhyw benderfyniadau ynglŷn â’r arian yn cael eu gwneud ganddyn nhw.

Mae llefarydd ar ran y llywodraeth wedyn yn mynd yn ei flaen i feirniadu Llywodraeth Prydain am ei “hagenda o lymder”, a’i “thoriad ar ôl toriad” i gyllid Cymru.

“Mae’r anrhefn bresennol yng nghalon Llywodraeth Prydain yn golygu nad ydyn ni’n dal yn gwybod beth fydd ein cyllid refeniw ar ôl Ebrill 2020,” meddai’r llefarydd.

“Mae’r lefel hwn o ansicrwydd yn hollol annerbyniol a heb ei debyg. Rydyn ni’n parhau i alw ar Lywodraeth Prydain i ddod a’i pholisi o lymder i ben ac i gynnig eglurder ar unwaith ynglŷn â threfniadau cyllidol y dyfodol.”

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Owain Glyn Dŵr a dysgu hanes Cymru – darlith Dr Elin Jones