Mae angen pontio’r bwlch sydd rhwng y byd addysg a’r byd gwaith er mwyn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.

Bydd Aled Roberts yn cyflwyno ei weledigaeth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst heddiw (dydd Llun, Awst 5).

Dechreuodd y cyn-Aelod Cynulliad ar ei swydd yn Gomisiynydd ar Ebrill 1, ac yn ystod y tri mis cyntaf fe fu ar daith o amgylch Cymru, gan gasglu barn dros 500 o bobol ynglŷn â sefyllfa’r Gymraeg yn eu hardaloedd.

Canolbwyntio ar “ddefnydd dyddiol” o’r iaith

“Rydw i’n adnabod sefyllfa ieithyddol fy ardal fy hun yn y gogledd-ddwyrain yn dda, ond mae’n bwysig fod gen i ddarlun clir a gonest o’r sefyllfa ar draws Cymru,” meddai Aled Roberts.

“Rydw i hefyd am i fy nghynlluniau ar gyfer y swydd gael eu seilio ar y pethau sydd fwyaf perthnasol i fywydau pobol ar lawr gwlad.

“Mae tuedd i’r drafodaeth gyhoeddus am y Gymraeg ganolbwyntio yn ormodol ar statws yr iaith ac ar ystadegau am niferoedd siaradwyr.

“Y perygl gyda hynny yw y byddwn ni’n canfod ein hunain mewn sefyllfa debyg i Iwerddon, lle mae yna 1.76m o bobol yn medru siarad Gwyddeleg, ond llai na 0.5% o’r rheiny yn ei siarad bob dydd.

“Rydw i am i’n gwaith ganolbwyntio ar gynlluniau wnaiff arwain at gynyddu defnydd dyddiol o’r Gymraeg.”

“Amryw o heriau” yn wynebu’r Gymraeg

Yn dilyn ei daith, mae Aled Roberts wedi dod i’r casgliad bod yna “ewyllys da ac agweddau cadarnhaol iawn” tuag at yr iaith ymysg y Gymraeg a’r di-Gymraeg ledled Cymru.

Ond ychwanega fod yna “amryw o heriau” yn wynebu’r Gymraeg, gan gynnwys prinder athrawon a chau ysgolion gwledig.

“Does dim dwywaith fod addysg Gymraeg yn allweddol i greu siaradwyr Cymraeg a bod addysg drochi yn llwyddiannus iawn yn creu siaradwyr rhugl,” meddai.

“Serch hynny, mae yna brinder athrawon yn y sector addysg Gymraeg ar draws Cymru a diffyg cynllunio cenedlaethol ar gyfer trochi.

“Clywais am sefyllfaoedd lle’r oedd cau ysgolion gwledig wedi arwain at leihau defnydd o’r iaith mewn cymunedau.”

Cydweithio â’r byd gwaith

“Byddwn yn gweithio gyda busnesau, elusennau a sefydliadau i sicrhau bod y siaradwyr Cymraeg sy’n gadael y system addysg a’r bobol sy’n dysgu’r Gymraeg yn gallu defnyddio’u sgiliau dwyieithrwydd,” meddai Aled Roberts wedyn.

“Drwy safonau’r Gymraeg, mae dyletswydd ar sefydliadau cyhoeddus i ystyried effaith eu penderfyniadau ar y Gymraeg.

“Gall rhain fod yn benderfyniadau all gael effaith fawr ar yr iaith – mewn meysydd fel cynllunio tai, yr economi, aildrefnu ysgolion neu ariannu prosiectau er enghraifft.

“Byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion ar sicrhau bod y dyletswyddau hyn yn cael eu gweithredu i’w llawn botensial a bod penderfyniadau’n arwain at gryfhau sefyllfa’r iaith.”