Mae’r heddlu’n diolch i’r cyhoedd ar ôl iddyn nhw helpu heddwas yn ystod ymosodiad yng Nghaerfyrddin echnos (nos Iau, Awst 1).

Cafodd yr heddlu eu galw toc wedi 8.20yh yn dilyn pryderon am les dynes ar ffordd B4312 ger Llangain.

Yn ôl Heddlu Dyfed-Powys, cafodd y car ei weld yn ddiweddarach ar gyrion tref Caerfyrddin wedi’i barcio ym maes parcio Morrisons, Pensarn.

Wrth i’r heddwas siarad â’r ddynes, fe ddechreuodd ei gŵr ei bygwth, cyn gwthio’r heddwas i’r llawr a’i daro yn ei wyneb.

Mae’n debyg ei fod hefyd wedi rhwygo radio, cyffion a chamera corff yr heddwas oddi arno a’u taflu i ganol y ffordd.

Ychwanega’r heddlu fod y ffrwgwd wedi dod i ben ar ôl i ddau aelod o’r cyhoedd ymyrryd a gafael yn yr ymosodwr honedig, cyn i bedwar heddwas arall ei arestio yn y fan a’r lle.

 ‘Diolch’

“Mae heddweision yn mynd i’r gwaith yn ddyddiol er mwyn amddiffyn y cyhoedd, ac yn rhy aml mae’n nhw’n dod yn ddioddefwyr trais,” meddai’r Arolygydd Kerry Scoberg o Heddlu Dyfed-Powys.

“Mae’n annerbyniol, a hoffem ddiolch i’r ddau ddyn a ddaeth i helpu ein cyd-weithiwr. Yn ffodus, mae mewn cyflwr da, ond heb eu meddwl cyflym fe fydd hi wedi bod yn stori wahanol.”

Mae dyn, 42, o ardal Caerfyrddin, wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gyflawni troseddau’n ymwneud â thrais domestig, ymosod ar heddwas a difrod troseddol.