Bydd ysgoloriaeth newydd yn cael ei sefydlu er cof am y diweddar academydd, yr Athro Hywel Teifi Edwards, ac mae ei fab, y newyddiadurwr Huw Edwards, yn apelio am gyfraniadau.

Nod Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi fydd cefnogi myfyrwyr ôl-radd cyfrwng Cymraeg sydd am astudio maes sy’n ymwneud â’i gyfraniad i ddysg a diwylliant Cymru.

Mae’r meysydd hynny yn cynnwys hanes, llenyddiaeth, y Gymraeg, gwleidyddiaeth neu’r cyfryngau.

Bydd Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe yn lansio apêl er mwyn sefydlu’r ysgoloriaeth yn y brifwyl yn Llanrwst yr wythnos nesaf.

Y bwriad yw gwobrwyo’r deiliad cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion y flwyddyn nesaf, sef sir enedigol Hywel Teifi Edwards.

“Rwy’n gobeithio y bydd cyfeillion o Gymru a thu hwnt yn fodlon cyfrannu at yr Ysgoloriaeth Goffa hon a fydd nid yn unig yn cadw’r cof am ´nhad yn fyw, ond hefyd yn sicrhau cefnogaeth i ysgolheigion cyfrwng Cymraeg a pharhad i’r meysydd y treuliodd ei oes yn eu hastudio a’u dysgu,” meddai Huw Edwards.