Mae tafarn sydd nid nepell o faes y brifwyl yn Llanrwst yn gwerthu cwrw mewn gwydriad ag arno eiriau prifardd o’r fro.

Yn ôl Mark Skelly, perchennog The Bee Inn ym mhentref Eglwysbach, mae cwsmeriaid sy’n archebu peint o’r Gwenyn Cymreig hefyd yn cael dracht o farddoniaeth y diweddar T Glynne Davies.

Mae’r dafarn wedi bod yn cynnig y gwydrau hynod ers 2012, meddai ymhellach, ac nid cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith bod un o’i chwsmeriaid ffyddlonaf – Geraint Glyn o’r band Ar Log – yn fab i’r prifardd a enillodd y Goron ym mhrifwyl Llanrwst yn 1951.

“Mae ganddon ni ffrâm yn y dafarn sy’n cynnwys cyfieithiad Saesneg, yn ogystal â phwt am Thomas Glynne Davies ei hun,” meddai Mark Skelly wrth golwg360.

“Y prif reswm y gwnaethon ni greu’r gwydrau oedd oherwydd ein bod ni yn Nyffryn Conwy ac oherwydd bod un o’n cwsmeriaid lleol yn deulu [i T Glynne Davies].”

Wrth holi a fyddai modd prynu’r gwydrau yn ystod wythnos y brifwyl, dywed Mark Skelly na fyddan nhw ar gael i’w cymryd adref.

“Roedden ni’n arfer eu gwerthu nhw,” meddai. “Ond, yn anffodus, fe gafodd lawer ohonyn nhw eu dwyn, oherwydd maen nhw’n eithaf unigryw, a dydyn ni ddim wedi creu rhagor yn ddiweddar…

“Rydyn ni am gyfri’r stoc ar ôl yr haf, a chael rhagor i mewn.”