Mae undeb wedi galw am “gyfarfod brys” â chwmni pŵer wedi iddo ddod i’r amlwg bod gorsaf ger y Barri yn mynd i gau yn gynt na’r disgwyl.

Roedd disgwyl i orsaf bŵer Aberddawan gau yn 2021, ond bellach mae cwmni RWE (Rheinisch-Westfälisches Elektrizitätswerk) wedi datgan y bydd yn cau fis Mawrth nesaf.  

Yn ôl undeb Unite, mae 170 o swyddi yn y fantol, ac mae’r cyhoeddiad diweddaraf yn “ergyd galed iawn” i’r gweithwyr a’r economi leol.

“Byddwn yn gofyn am gyfarfod brys â rheolwyr RWE, a byddwn yn gofyn iddyn nhw esbonio pam bod yr orsaf yn cau yn gynt na’r disgwyl…” meddai Kelvin Mawer, swyddog o Unite.

“Pan fyddwn yn cwrdd â’r cwmni byddwn yn trafod y posibiliad o ddod o hyd i swyddi newydd i’n haelodau.”

Penderfyniad “angenrheidiol”

Mae Roger Miesen, Prif Weithredwr RWE Generation, wedi ymateb trwy ddweud bod y penderfyniad yn un “angenrheidiol” o ystyried “cyflyrau’r farchnad”.

Dechreuodd Gorsaf Bŵer Aberddawan ar ei gwaith yn 1971, ac yn ôl y cwmni mi sefydlodd cysylltiadau cryf â’r gymuned leol gan gyfrannu miliynau o bunnoedd at yr economi leol.