Mae’r Ceidwadwyr yn wynebu is-etholiad tyngedfennol ym Mrycheiniog a Maesyfed heddiw (dydd Iau, Awst 1), gan y byddai colli’n golygu torri eu mwyafrif i ddim ond un sedd yn San Steffan.

Mae Chris Davies, yr aelod seneddol Ceidwadol a gollodd ei sedd yn sgil ei gael yn euog o dwyll, yn ceisio ennill y sedd yn ôl.

Ond y ffefryn i’w hennill yw Jane Dodds, y Democrat Rhyddfrydol, ar ôl i Blaid Cymru a’r Blaid Werdd benderfynu peidio â chyflwyno ymgeisydd, gan ddatgan eu cefnogaeth i’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Ar hyn o bryd, mae gan y Ceidwadwyr 310 o aelodau seneddol, ac mae deg aelod seneddol y DUP yn eu cefnogi ar rai materion.

Mae gan y pleidiau eraill 318 o aelodau seneddol rhyngddyn nhw, felly gallai’r sedd hon gael effaith sylweddol ar rym y llywodraeth.

Y Democratiaid Rhyddfrydol enillodd y sedd yn 1997, cyn i’r Democratiaid Rhyddfrydol ei hennill yn 2015.

Yn 2017, roedd ganddyn nhw fwyafrif o 8,038, gan ennill 49% o’r bleidlais.

Yn y ras

Chris Davies (Ceidwadwyr)

Tom Davies (Llafur Cymru)

Jane Dodds (Democratiaid Rhyddfrydol)

Des Parkinson (Brexit Party)

Liz Phillips (UKIP)

Lady Lily The Pink (Official Monster Raving Loony Party)