Bu farw Gwyn Pierce Owen, y gwr busnes hoffus a fu am flynyddoedd yn gadeirydd Clwb Pêl-droed Bangor. Roedd yn 85 oed.

Roedd yn un o fawrion Clwb Pêl-droed Bangor, lle cafodd eisteddle ei henwi ar ei ôl, ac yn Llywydd Anrhydeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Yn enedigol o Benbedw, mae’n dweud yn ei hunangofiant C’mon Reff y “gellir honni mai Sais uffar ydi’r Gwyn Pierce Owen ’na!”.

Ond fe gafodd ei fagu yn Rhoscefn-hir ym Môn, ynys y mae’n ei disgrifio fel un “hynod blwyfol”, a’i addysgu yn Ysgol Bentraeth, Ysgol Ramadeg Biwmares ac yna’r Coleg Normal ym Mangor. .

Fe aeth yn ei flaen i fod yn athro ym Mrynsiencyn, Niwbwrch a Phorthaethwy, ac yn brifathro yn Llanddona am 21 o flynyddoedd.

Roedd hefyd yn ffermwr ac yn berchennog cwmni carafanau.

Roedd yn ddyfarnwr rhwng 1975 a 1982, gan gyrraedd lefelau uchaf Ewrop gyda FIFA a dod yn ddyfarnwr rhyngwladol yng Nghwpan y Byd.

Mae Clwb Pêl-droed Bangor wedi cofio eu cyn-gadeirydd ar eu cyfrif Twitter: