Bydd cant o bobol ifanc yn cael y cyfle i fynd i un o wersylloedd yr Urdd yr haf hwn fel rhan o gronfa gan y mudiad ar gyfer plant a phobol ifanc o gefndiroedd tlawd.

Cafodd Cronfa Cyfle i Bawb 2019 ei lansio y llynedd, gan annog unigolion, cwmnïau a chymdeithasau i noddi gwyliau i bobol ifanc yn ystod gwyliau’r haf.

Yn ôl Urdd Gobaith Cymru, maen nhw wedi llwyddo i gyrraedd y nod ariannol ar gyfer eleni, diolch i gyfraniadau gan unigolion, busnesau a chymdeithasau, gan gynnwys 24 o ganghennau Merched y Wawr, pum vlwb Rotari, a chwmni teledu Tinopolis.

Bydd ymgyrch newydd ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cael ei lansio yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy.

Cyfle i bobol ifanc

“Rydym yn falch iawn o lwyddiant Cronfa Cyfle i bawb 2019,” meddai Prif Weithredwr yr Urdd, Siân Lewis.

“Mae’n gyfrifoldeb arnom i wneud ein rhan i geisio mynd i’r afael ag effaith tlodi ar blant.

“Fel mudiad sydd â phlant a phobol ifanc wrth wraidd ein holl weithgareddau, dyma un ffordd o sicrhau bod modd i bawb, beth bynnag fo’u cefndir, gael y profiad o aros yn un o’n gwersylloedd.”