Mae Bryn Terfel wedi priodi Hannah Stone, cyn-delynores Tywysog Cymru.

Fe briododd y ddau yng nghapel y Bedyddwyr, Caersalem Newydd yn ninas enedigol y briodferch yn Abertawe ddoe (ddydd Gwener).

Yn ôl adroddiad Wales Online, dywedodd y seren opera ei fod ar ben ei ddigon.

Wedi’r seremoni, meddai’r canwr opera a fagwyd ym mhentref Prenteg, ger Caernarfon: “Mae heddiw wedi bod yn arbennig iawn; priodi fy nghariad mewn lleoliad mor brydferth gyda phob un o’n hanwyliaid agosaf o’n cwmpas.

“A chan ein bod ein dau yn falch o’n gwreiddiau Cymreig; finnau’n fab fferm o Pantglas a Hannah yn ferch o’r Mymbls, d’oedd yna ddim cwestiwn i ni ynghylch lleoliad Cymreig.”

Mae Bryn Terfel yn 53 oed.

Dechreuodd Hannah, 32, chwarae’r delyn pan oedd hi yn wyth oed ac aeth ymlaen i astudio yn Llundain.

Mae gan y cwpwl ferch a anwyd yn 2017. Mae gan Bryn Terfel dri o blant eraill, i gyd yn fechgyn, o’i briodas gyntaf i Lesley Jones.

Yn dilyn y briodas ddoe, cafodd y gwahoddedigion fwynhau siampên a chwisgi Cymreig o ddistyllfa Pendryn. Fe ddathlodd y cwpwl eu priodas eu neithior yn ngwesty Fairyhill, Penrhyn Gŵyr.