Mae miloedd o bobol o bob rhan o Gymru wedi tyrru i Gaernarfon heddiw i orymdeithio dros Gymru annibynnol.

Yn dilyn digwyddiad llwyddiannus Pawb Dan Un Faner Cymru (AUOBCymru) yng Nghaerdydd ym mis Mai, daeth miloedd o bobol mewn ceir a bysiau ledled Cymru i ddangos eu cefnogaeth i annibyniaeth.

Dechreuodd yr orymdaith o faes parcio Doc Fictoria, Caernarfon gyda pobol o bob cwr o Gymru – o Gaerdydd i Gaergybi – yn ymuno yn yr orymdaith liwgar.

Gwelwyd pob mathau o faneri gan gynnwys baner y Ddraig Goch, Owain Glyndwr, Dewi Sant, Yes Cymru a rhai Catalonia a Llydaw yn cael eu chwifio.

Roedd y rhan fwyaf o bobl wedi eu gwisgo yn arbennig at y diwrnod mewn crysau T coch Yes Cymru ac erall a hyd yn oed ambell i gi mewn siaced yr un fath.

Roedd pawb mewn ysbryd da wrth ymlwybro i lawr ffordd Balaclafa a heibio i Galeri wrth iddyn nhw wedyn i fyny Stryd y Plas ac o amgylch y castell cyn diweddu ar y Maes i wrando ar nifer o siaradwyr.

Wrth iddyn nhw orymdeithio, roedd bandiau yn taro ac yn eu harwain a’r dorf yn canu Hen Wlad fy Nhadau, Sosban Fach ac emynau tebyg i Calon Lan.

Dywedodd y trefnwyr fod Caernarfon yn cynnal ei ddigwyddiad ei hun “i ddangos bod y momentwm yn cynyddu i bobol Cymru gymryd rheolaeth o’u dyfodol eu hunain”

Roedd yna yn bendant awyrgylch o garnifal yng nghanol y dref wedi i’r trefnwyr ofyn i orymdeithwyr ddod a baneri, drymiau ac offerynnau cerdd gyda nhw.

Dechruodd yr orymdaith yn dechrau’n brydlon am 1 o Faes Parcio Doc Fictoria.

Wedyn teithiodd ar hyd stryd Balaclafa, ar hyd Stryd Pedwar a Chwech at Stryd y Plas, o amgylch y castell a gorffen ar y Maes ble mae rali nawr yn cael ei chynnal.

Mae  arolwg diweddaraf YouGov yn rhoi cefnogaeth i annibyniaeth ar 36%, a chefnogaeth i barhau o dan reolaeth gwleidyddion San Steffan yn disgyn o dan 50% am y tro cyntaf ers i bleidleisio ar y pwnc ddechrau.

Mudiad llawr gwlad yw Pawb Dan Un Faner Cymru, sy’n dwyn ysbrydoliaeth gan fudiad All Under One Banner yn yr Alban. Mae’n cael ei gefnogi gan nifer o grwpiau sydd â’r nod o sicrhau annibyniaeth, ac nid yw’n ymochri ag unrhyw blaid wleidyddol nac yn gysylltiedig â nhw.