Mae Prifysgol Abertawe wedi rhoi’r sac i’w His-ganghellor, yr Athro Richard Davies, am “gamymddwyn difrifol”.

Yn dilyn proses ddisgyblu, mae’r Athro Richard Davies a’r Athro Marc Clement, wedi cael eu diswyddo.

Roedd y ddau, a gafodd eu gwahardd o’r Brifysgol ar dâl llawn ym mis Tachwedd 2018, yn gwadu unrhyw gamwedd ac maen nhw’n bwriadu lansio apêl.

Dydi’r Brifysgol heb roi rheswm penodol dros gael gwared ar y ddau – ond maen nhw yn dweud eu bod wedi cynnal ymchwiliad annibynnol a phanel disgyblu diduedd.