Bydd modd i bobol ymweld ag un o lysoedd Owain Glyndŵr yn ystod gŵyl ganoloesol yng Nghorwen dros yr haf.

Bydd Gŵyl y Fflam yn cael ei chynnal ar Fedi 14 ac 15, ac yn ogystal â mynd ar rith dripiau (vivid virtual reality) i Sycharth, bydd modd i ymwelwyr brofi llu o ryfeddodau eraill.

Mi fydd pencampwriaeth ymladd ganoloesol Prydain yn cael ei chynnal yn ystod yr ŵyl, ac mi fydd yna arddangosfeydd, stondinau, adloniant, a thimau ail greu hanes yno hefyd.

Un o drefnwyr yr ŵyl yw Dylan Ellis Jones, ac mae yntau’n dweud bod y digwyddiad yn gyfle da i adfywio canol y dre.

“Dyna’r peth diddorol,” meddai wrth golwg360. “Rydym ni’n ei rhoi o yn ardal yr hen bafiliwn. Ac mae hynny’n rhyw neges fach.

“Rydym ni’n gobeithio y bydd mwy a mwy o bobol yn deffro fyny i’r ardal yna yng Nghorwen ac yn dechrau ei ailddefnyddio. Cawsom ŵyl fwyd yna tua mis yn ôl. Roedd yn llwyddiannus iawn.”

Mae’r trefnydd yn disgwyl i dua 500 o bobol ymweld â’r ŵyl ar y diwrnod cyntaf.

Cefndir

Grŵp Cymunedol Gweithredu Edeirnion sy’n gyfrifol am drefnu’r ŵyl, hwythau hefyd syn trefnu Gŵyl Edeirnion.

Cafodd yr ŵyl honno ei chynnal am y tro cyntaf y llynedd oherwydd bod y grŵp yn poeni bod Corwen yn mynd yn “ddistawach pob blwyddyn”, yn ôl Dylan Ellis Jones.

A daeth y penderfyniad i sefydlu Gŵyl y Fflam yn sgil llwyddiant Gŵyl Edeirnion, meddai’r trefnydd.

“Erbyn diwedd Gŵyl Edeirnion roeddwn yn teimlo fel dweud: ‘Byth eto. Mae hwn yn ormod o strach’,” meddai.  “Ond mewn tua mis wnaethon ni feddwl: ‘Duw gawn ni ail un!’”

Cafodd Gŵyl y Fflam ei ariannu gan “ychydig o bres” o ŵyl y llynedd, a gan arian o gyfranwyr i’w hymgyrch Crowdfunder.

Mae’r ddwy ŵyl bellach wedi derbyn arian gan y Loteri Genedlaethol.