Bydd tref Llanrwst yn profi “wythnos fythgofiadwy” adeg yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Dyna mae Prif Swyddog Menter Iaith Conwy, Meirion Davies, wedi ei addo ar drothwy’r brifwyl a fydd yn cael ei chynnal rhwng Awst 2 ac Awst 10.

Mae Menter Iaith Conwy wedi trefnu llu o ddigwyddiadau i gyd-daro â’r Eisteddfod yn Llanrwst gan gynnwys gigiau yn y dref.

Ac maen nhw’n bwriadu cau sgwâr y dref i gerbydau er mwyn creu gofod  braf i “gerdded ac oedi am sgwrs a phaned”.

“Wythnos fythgofiadwy”

“Rydan ni’n ffyddiog y bydd hi’n wythnos fythgofiadwy yn y dref,” meddai Meirion Davies.

“Rydan ni’n ffodus bod y meysydd carafanau i gyd o fewn pellter cerdded i’r dref, felly peidiwch â cholli’r cyfle i fwynhau’r awyrgylch.

“Mae busnesau lleol wedi gweithio’n galed i gefnogi’r Eisteddfod a’n gobaith ni ydi y byddan nhwythau hefyd yn elwa ar gael yr Eisteddfod yma.”