Mi fydd yr ymchwiliad i’r sgandal gwaed yn cwblhau’r gwaith o gymryd tystiolaeth gan dystion o Gymru heddiw.

Mae’r ymchwiliad wedi bod yn clywed sut y cafodd pobol afiechydon difrifol ar ôl derbyn gwaed wedi ei heintio yn y 1970au a’r 1980au.

Mae lle i gredu bod yr helynt wedi arwain at farwolaeth 2,400 o bobol, a bod o leiaf 300 o Gymry wedi’u heffeithio.

Dros gyfnod o bedwar diwrnod mae’r ymchwiliad yng Nghaerdydd wedi clywed gan bobol a gafodd eu heintio ac – mewn sawl achos – eu perthnasau.

Heintio

Ar ddydd Iau (Gorffennaf 25) clywodd yr ymchwiliad am Paul Summers a fu farw yn 2008 yn 44 oed.

Roedd yn dioddef o haemoffilia a chafodd ei heintio â HIV pan dderbyniodd gwaed i drin ei gyflwr.

Mi dderbyniodd diagnosis HIV yn yr 1980au, ond ni chafodd wybod am y  diagnosis tan flwyddyn ar ôl i ddoctoriaid ei ddarganfod.

Bu iddo farw degawdau wedi hynny o hepatitis C.