Mae tafarn yn Llanfair-ym-Muallt sydd wedi cael ei chyhuddo o “fygwth” cwsmer am fod ganddo’r Ddraig Goch ar gerdyn adnabod, yn gwadu’r honiad yn llwyr.

Dywed Mabon Dafydd ei fod yn ceisio prynu diod yn y White Horse pan gafodd ei holi am ei gerdyn adnabod, sydd â sticer y ddraig goch tros Jac yr Undeb.

Mae’n dweud bod y ddynes oedd wedi ei serfio yn mynnu bod rhaid tynnu’r sticer cyn y gallai werthu diod iddo.

“Mi archebais i ddiod gan ddisgwyl iddyn nhw ofyn i weld fy ID fel arfer,” meddai wrth golwg360. “Mi edrychodd y ddynes ar yr ID gan ofyn ‘pam fod gen ti hwn yna?’ wrth bwyntio at faner Cymru.

“’Baner Cymru dros faner Jac yr Undeb’ atebais yn gadarn. Yna, mi ddywedodd hi nad oedd yn edrych fel ID dilys a’i bod hi am dynnu’r sticer oddi ar yr ID cyn fy mod yn gallu cael diod.

“Roeddwn yn benderfynol i hyn beidio digwydd, felly cefais drafodaeth danllyd gyda hi am ychydig o amser, gan geisio esbonio fod gan nifer fawr o Gymry sticeri ar eu IDs,” meddai Mabon Dafydd wedyn.

“Nid oedd hyn yn ddigon ac mi ddywedodd wrthyf os nad ydw i’n barod i dynnu’r sticer oddi ar fy ID, yna fydd dim gobaith i mi gael fy ngweini ganddi.”

‘Gandryll’

Mae’n dweud fod y profiad wedi ei adael yn teimlo’n “gandryll ac yn teimlo fel fy mod wedi cael fy mradychu gan fy nghyd-Gymry yn ein gwlad ein hunain”.

Ar yr un pryd, mae’n dweud ei fod yn teimlo’n “drist ac yn hynod siomedig” nad yw’r Cymry’n “cael eu derbyn y gyfartal, hyd yn oed yn ein gwlad ni’n hunain”.

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran y dafarn wrth golwg360 fod ganddyn nhw bolisi Her 25 ac mai’r unig adeg pan fydden nhw’n gwrthod derbyn cerdyn adnabod yw “pan fo’n edrych fel cerdyn annilys”.