Mae ymgynghoriad ar sut mae datblygu sector bwyd a diod  a llwyddiannus yng Nghymru yn cael ei lansio heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 23) gan y llywodraeth.

Y bwriad yw gweld sut mae cael sector fyddai’n cael ei gydnabod am ei ragoriaeth, ac un sy’n gyfrifol ar lefel amgylcheddol a chymdeithasol.

Mae’r ymgynghoriad yn cael eu datgelu ar y cyd gan Weinidogion yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths ac Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd.

Bydd y cynllun newydd ar gyfer 2020-26 yn adeiladu ar y cynllun presennol ‘Tuag ar Dwf Cynaliadwy,’ sydd wedi gweld y sector yn cyrraedd ei darged trosiant o £7bn yn gynnar.

Mae’r ymgynghoriad yn nodi sut bydd Llywodraeth Cymru a Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru yn cydweithio â’r sector er mwyn datblygu busnesau sicrhau budd i bobol Cymru a chymdeithas, hyrwyddo Cymru fel gwlad bwyd.

“Mae gan ein diwydiant bwyd a diod hanes o lwyddiant yng Nghymru. Mae’n tyfu ac mae gennym broffil mwy amlwg,” meddai Lesley Griffiths,.

“Mae yna ewyllys ac egni  amlwg i adeiladu ar lwyddiant ein Cynllun Gweithredu presennol ac i roi’r sector yn y lle gorau posib ar gyfer y dyfodol.

“Yr hyn sydd wrth wraidd ein llwyddiant yw partneriaeth go iawn rhwng Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, busnesau, arbenigwyr technegol, a’r llywodraeth.

Bydd yr ymgynghoriad newydd yn dod i ben ar Hydref 15, 2019.