Andy Douglas o’r Alban yw enillydd y dynion yn Ras yr Wyddfa eleni.

Fe orffennodd e’r ras mewn 1:03:50 – munud a 50 eiliad yn fwy na’r record a gafodd ei gosod gan Albanwr arall, Kenny Stuart yn 1985.

Cyn y ras, roedd Peter Ryder, rheolwr tîm rhedeg mynydd Cymru, yn darogan y gallai’r record gael ei thorri heddiw, gyda mwy o redwyr nag erioed o’r blaen yn cystadlu.

Martin Demattei’S a’i efaill Bernard o’r Eidal oedd yn ail a thrydydd, y naill yn gorffen mewn 1:06:22 a’r llall mewn 1:06:54.

Am y tro cyntaf erioed eleni, roedd y ras yn rhan o gyfres fawreddog Cwpan y Byd Cymdeithas Rhedeg Mynydd y Byd, a oedd yn debygol o ddenu rhedwyr o bob cwr o’r byd i Lanberis.

Y dyfalu oedd fod hyd at 670 am gymryd rhan yn y ras.