Mae cadoediad ar ddryllau yn dechrau heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 20) yng Nghymru a Lloegr.

Fe fydd yn rhedeg am bythefnos hyd at Awst 4.

Yn ôl yr heddlu, mae nifer o bobol yn berchen ar ddryllau heb fod ganddyn nhw’r trwyddedau cywir, ac mae rhai yn eu storio yn eu cartrefi heb ofalu amdanyn nhw mewn modd priodol.

Mae dryllau eraill yn cael eu caffael a’u dosbarthu i droseddwyr sy’n achosi braw yn eu cymunedau.

Fel rhan o’r cadoediad, gall pobol fynd â’u dryllau i orsafoedd yr heddlu, sy’n pwysleisio na fydd unrhyw un sy’n dychwelyd dryllau iddyn nhw yn ystod y cadoediad yn cael eu herlyn.

Serch hynny, bydd yr heddlu’n gwirio nad ydyn nhw wedi cael eu defnyddio i dorri’r gyfraith.