Mae arddangosfa sy’n canolbwyntio ar y Cymry a fentrodd i’r ‘Byd Newydd’ wedi agor yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 20).

Mae’r arddangosfa yn dilyn anturiaethau – chwedlonol a ffeithiol – y Cymry wnaeth “ddarganfod’, archwilio ac ymgartrefu yn yr Unol Daleithiau.

Yn eu plith mai Lewis Evans, a luniodd un o fapiau Americanaidd pwysicaf y 19eg ganrif, yn ogystal â’r cowboi Cymreig, Arthur Owen Vaughan (‘Owen Rhoscomyl’).

Mae sylw hefyd yn cael ei roi i lwyth o frodorion sy’n cael eu cysylltu â chwedl y Tywysog Madog, a’r ymgais a fu i’w darganfod a’u hastudio.

“Mae’r chwedlau a’r hanesion sydd ynghlwm â hanes Cymru ac America yn rhyfeddol, ac mae’n braf gallu dod â hwy i’r amlwg yn yr arddangosfa hon drwy amrywiol gasgliadau’r Llyfrgell,” meddai Mari Elin Jones, un o guraduron y Llyfrgell Genedlaethol.

“Gobeithiaf y bydd ymwelwyr yma yng Nghymru, a thu hwnt, yn achub ar y cyfle hwn i weld eitemau prin a diddorol sy’n dathlu perthynas Cymru â’r ‘Byd Newydd’.”

Bydd arddangosfa ‘Byd Newydd’ ar agor tan Ionawr 11, 2020.