Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun newydd a fydd yn rhoi nawdd i awduron “a gaiff eu tangynrychioli”.

Mae ‘Cynrychioli Pawb’ yn gynllun peilot sy’n cynnig grantiau rhwng £50 a £1,000 er mwyn bod yn awdur proffesiynol.

Yn ôl Llenyddiaeth Cymru, bwriad y cynllun yw rhoi cyfleoedd yn y byd llenyddol i awduron o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, yn ogystal ag awduron sydd ag anabledd neu salwch – meddyliol neu gorfforol.

“Dylai awduron Cymru gynnwys ystod o oedrannau, o gefndiroedd cymdeithasol ac economaidd, ethnigedd, rhyw, ardaloedd ac ieithoedd,” meddai Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn.

“Nid cau unrhyw un allan yw’r bwriad yma, ond yn hytrach creu cyfleoedd teg a chyfartal, a sicrhau fod datblygiad proffesiynol ac arloesedd celfyddydol ar gael i bawb.”

Ymgeisio am arian

Mae modd i awduron wneud cais am nawdd ar gyfer datblygiad proffesiynol o’u dewis.

Fe all hynny gynnwys mynychu digwyddiad neu gynhadledd; cysgodi awdur at ddibenion hyfforddiant a datblygiad; costau i ddatblygu dull newydd o weithio, neu gyflawni cyfres o weithdai llenyddol yn y gymuned.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Awst 21.