Mae dyn fu yn colli pwysau ar raglen Ffit Cymru eleni wedi ei ethol yn gynghorydd sir.

Fe dderbyniodd Matthew Woolfall-Jones, o Blaid Cymru, y mwyafrif o’r pleidleisiau (63%) yn isetholiad Llanbadarn Sulien, er bod y nifer a bleidleisiodd cyn ised â 38.16%.

Cafodd yr isetholiad ei chynnal ar ôl i Paul James, 61, gael ei ladd mewn gwrthdrawiad tra oedd yn seiclo ar ffordd yr A487 ger Aberystwyth ym mis Ebrill.

Yn ôl Matthew Woolfall-Jones, daw ei lwyddiant er gwaethaf “amgylchiadau anodd iawn,” ac mae’n awyddus i barhau â’r gwaith cymunedol y bu ei ragflaenydd yn ei gyflawni.

“O ddydd i ddydd, mae pethau yn codi,” meddai’r cynghorydd newydd wrth golwg360. “Mae pobol eisiau help y cynghorydd yn y ward gyda phethau fel ffyrdd a pharcio ac yn y blaen.

“Ond dw i’n meddwl, yn gyffredinol, mae’n rhaid sicrhau bod cynghorydd gweledol ac agored ar gael i bobol yr ardal.

“Dyna yw’r peth pwysicaf a dyna beth mae pobol wedi eisiau ei gael ers marwolaeth Paul.”

Ffit Cymru

Bu Matthew Woolfall-Jones yn un o’r ‘Arweinwyr’ yn y gyfres ddiweddaraf o Ffit Cymru ar S4C.

Er bod y gyfres honno bellach wedi dod i ben, dywed y cynghorydd, sydd hefyd yn rheoli swyddfa’r Aelod Cynulliad, Elin Jones, fod canfasio ar gyfer yr isetholiad wedi bod o help iddo wrth gadw’n heini.

“Mae cerdded o gwmpas Llanbadarn a rhedeg lan Bryn Glas yn sicr wedi helpu fi i gadw fy steps i mewn a sicrhau fy mod i’n cadw fy ffitrwydd lan,” meddai.

Y canlyniad llawn

  • Michael Chappel (Democratiaid Rhyddfrydol) – 93 pleidlais
  • Richard William Henry Layton (Llafur) – 15
  • Matthew Nathan Woolfall-Jones (Plaid Cymru) – 186