Mae dyn o Bontarddulais wedi cael ei ddedfrydu i oes o garchar ar ôl ymosod ar hen ddynes yn ei chartref ei hun, gan ei gadael gydag “anafiadau difrifol iawn”.

Roedd Jeffrey Lloyd, 40, eisoes wedi pledio’n euog i achosi niwed corfforol difrifol a lladrata, ar ôl iddo gael mynediad i gartref Ruth Yandle, 73, yn Heol Garnswllt ym mis Ionawr y llynedd.

Clywodd y llys fod yr ymosodwr wedi taro’r gyn-athrawes gyda chrowbar, cyn gadael gyda bag.

Cafodd Jeffrey Lloyd ei ddal tair wythnos ar ôl yr ymosodiad.

Datganiad y teulu

Mae teulu Ruth Yandle, a oedd yn athrawes yn Ysgol Gyfun Gyfun Gŵyr cyn ymddeol, wedi rhyddhau datganiad mewn ymateb i’r achos.

“Dyw Mam braidd yn gallu sgrifennu na darllen erbyn hyn,” meddai’r teulu. “Mae angen gofal 24 awr y dydd arni, a lle cynt y bu hi’n gofalu am bawb arall,  fe fydd yn rhaid i rywun ofalu amdani hi am weddill ei hoes.

“Mae ein teulu wedi ei rwygo ac roedd ei gadw ynghyd yn un o’r rhesymau pam yr oedd hi’n byw ac yn anadlu.

“Mae wedi cael ei hamddifadu am weddill ei hoes, ac mae ei phlant a’i hwyrion wedi cael eu hamddifadu o’i hiwmor a’i doethineb, a wnaeth gyfoethogi ein bywydau.

“Rydyn ni wedi colli ein mam a’n ‘Mam-gu’.”