Mae Prifysgol Abertawe wedi cyfaddef eu bod yn hwyr yn cyhoeddi eu cyfrifon oherwydd “problem” gydag ymchwiliad mewnol.

Roedd disgwyl i brifysgolion gyflwyno’u cyfrifon i’r Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) erbyn 30 Tachwedd 2018.

Ond roedd Prifysgol Abertawe fisoedd yn hwyr yn gwneud hynny, ac am gyfnod nhw oedd yr unig sefydliad yng Nghymru, Lloegr a’r Alban a oedd heb wneud hynny.

Yn ôl y brifysgol ei hun, mae’r cyfrifon yn dangos eu bod “mewn sefyllfa ariannol gref”.

“Problem”

“Bu oedi cyn cyhoeddi ein Cyfrifon (Adolygiad Gweithredol ac Ariannol 2017/18) oherwydd problem yn yr archwiliad a’n hymchwiliad annibynnol parhaus,” meddai llefarydd ar ran y brifysgol.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda HEFCW a’n cyllidwyr allweddol ar y materion hyn, ond nid ydym yn disgwyl unrhyw broblem hirdymor.”