Archfarchnad figan gyntaf Llanelli yn agor ei drysau

 
Cynrychiolwyr o Gyngor Sir Gaerfyrddin yng nghwmni Matt Rogerson y tu allan i'w archfarchnad figan newydd, Kind Earth, yn Llanelli

Cynrychiolwyr o Gyngor Sir Gaerfyrddin yng nghwmni Matt Rogerson y tu allan i’w archfarchnad figan newydd, Kind Earth, yn Llanelli

Llun Cyngor Sir Gaerfyrddin

Mae archfarchnad figan gyntaf tref Llanelli wedi agor ei drysau, ac mae’r busnes hefyd yn honni ei fod yn hollol “ddi-blastig”.

Fe agorodd Kind Earth ei drysau ym Maes y Coed am y tro cyntaf yr wythnos ddiwethaf (Gorffennaf 12), diolch i grant o bron i £4,500 gan Gyngor Sir Gaerfyrddin er mwyn prynu offer.

Mae’r archfarchnad yn arbenigo mewn gwerthu bwyd figan organig sydd wedi ei gynhyrchu’n lleol, a bagiau papur –yn hytrach na rhai plastig – sy’n cael eu darparu i gwsmeriaid.

Mae’r perchnogion hefyd yn gobeithio y bydd y busnes yn ganolbwynt ar gyfer gwahanol brosiectau amgylcheddol, gan gynnwys diwrnodau casglu sbwriel a gweithdai ar sut i wella ansawdd bywyd.

‘Gwella’r gymuned a’r byd’

“Dw i’n gobeithio y bydda i a’m rhanddeiliaid yn gallu gwneud ein cymuned leol a rhyngwladol yn lle gwell,” meddai  Matt Rogerson, y perchennog.

“Nid siop figan lle y gall pobol brynu bwyd ffres lleol o ansawdd da yn unig yw hon. Bydd hefyd yn cynnig cyfle i gwsmeriaid fod yn rhan o brosiectau a gweithdai a fydd yn gwneud ein cymuned yn fwy iachus a chynaliadwy.”

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi croesawu’r agoriad, gan ddweud eu bod yn “hapus” i gefnogi busnes “a fydd o fantais i’r gymuned ac yn cynnig ystod ehangach o fwyd i bobol.

“Fel cyngor, rydyn ni’n parhau’n ymrwymedig i gryfhau ein heconomi leol ac i roi cymaint o ddewis ag sy’n bosib i bobol Sir Gaerfyrddin,” meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Emlyn Dole.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Owain Glyn Dŵr a dysgu hanes Cymru – darlith Dr Elin Jones