Mae disgwyl i “dyrfaoedd mawr” orymdeithio drwy strydoedd tref Caernarfon y penwythnos nesaf (Gorffennaf 27), wrth i bobol ddangos eu cefnogaeth i’r syniad o Gymru annibynnol.

Daw’r digwyddiad gan y mudiad Pawb Dan Un Faner Cymru (AUOBCymru), yn dilyn gorymdaith lwyddiannus yng Nghaerdydd ym mis Mai, lle’r oedd miloedd o bobol.

Yn ôl trefnwyr yr orymdaith, y bwriad yw dangos “bod momentwm yn cynyddu i bobol Cymru gymryd rheolaeth o’u dyfodol eu hunain.”

Ymhlith y siaradwyr ar ddiwedd yr orymdaith fydd y digrifwr a’r ymgyrchydd o’r Alban Hardeep Singh Kohli, y canwr Dafydd Iwan, a’r bît-bocsiwr Ed Holden.

Ymgyrch yn “mynd o nerth i nerth”

“Mae hyn wir yn mynd o nerth i nerth fel dewis amgen i’r hen wleidyddiaeth ddiflas sydd wedi ein siomi cymaint o’r blaen,” meddai Gwyn Llewelyn, un o drefnwyr yr orymdaith.

“Byddwn yn argymell i unrhyw un sydd eisiau dyfodol gwell i’w teulu a’u cymuned ymuno â ni yn yr orymdaith am annibyniaeth yng Nghaernarfon, gofyn y cwestiynau anodd a chymryd rhan yn llunio dyfodol ein gwlad.”

Bydd yr orymdaith yn cychwyn am 1yp o Faes Parcio Doc Fictoria, cyn mynd ymlaen i Balaclafa ac yna ar hyd Stryd Pedwar a Chwech at Stryd y Plas.

Bydd wedyn yn mynd o amgylch y castell ac yn gorffen ar y Maes lle bydd rali fawr yn cael ei gynnal.