Mae diffoddwyr yn dal “yn bresennol” ar safle tân mynydd yng Nghonwy.

Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd, cawson nhw eu galw i drin â thân Bwlch Sychnant, rhwng Conwy a Phenmaenmawr, neithiwr (nos Fercher, Gorffennaf 17).

Cafodd Ffordd Bwlch Sychnant ei chau yn sgil hynny a chafodd y cyhoedd eu hannog i osgoi’r ardal.

Bellach mae pob ffordd yn yr ardal ar agor, ond mae’r gwasanaeth tân yn annog y cyhoedd i aros yn ddiogel.

“Rydym dal yn bresennol mewn tân mynydd yn Sychnant, Conwy. Efallai y bydd mwg dal i’w gweld ond nid oes rheswm am unrhyw bryder,” meddai eu cyfrif Twitter.

Rhannodd y cyflwynydd, Gareth Wyn Jones, lun o’r tân yn gynnar fore dydd Iau (Gorffennaf 18).