Bydd cynghorwyr Gwynedd yn cael cyfle i bleidleisio ar gynnig i gefnogi annibyniaeth i Gymru yr wythnos hon.

Mae tua dwsin o gynghorau tref a chymunedol ledled Cymru wedi datgan eu cefnogaeth i’r ymgyrch tros annibyniaeth, hyd yn hyn, a hynny ers i Gyngor Tref Machynlleth fod yr un cyntaf i wneud hynny ar ddiwedd mis Mai.

Bydd Cyngor Gwynedd yn ystyried pa un ai i wneud datganiad tebyg ai peidio brynhawn Iau (Gorffennaf 18), wrth i’r Cynghorydd Nia Jeffreys gyflwyno cynnig sy’n nodi:

Galwn ar y Cyngor i alw am annibyniaeth i Gymru gan anfon neges glir nad yw Cymru yn rhy fach na thlawd i sefyll ar ei thraed ac ein bod yn dyheu i wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar ein dyfodol yng Nghymru, nid yn Llundain.

Os bydd y cynnig yn cael ei gymeradwyo, Cyngor Gwynedd fydd yr awdurdod lleol cyntaf i ddatgan ei gefnogaeth yn ffurfiol i’r syniad o annibyniaeth i Gymru.