Bydd digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd yr wythnos nesaf er mwyn ystyried pa effaith y mae achosion o TB yn ei chael ar iechyd meddwl ffermwyr.

Mae’r seminar wedi ei threfnu gan Undeb Amaethwyr Cymru, a daw wrth i nifer gynyddol o ffermwyr gysylltu ag elusennau yn gofyn am gymorth.

Mae’r ffigyrau diweddaraf gan Defra hefyd yn nodi bod 11662 o anifeiliaid wedi gorfod cael eu lladd o ganlyniad i TB dros y flwyddyn ddiwethaf  – awgrym bod tor calon ymhlith ffermwyr yn debygol o fod yn “bryderus o uchel”, meddai’r undeb.

Yn cadeirio’r seminar ar ddiwrnod cyntaf y Sioe (dydd Llun, Gorffennaf 22) fydd Uwch-swyddog Polisi’r FUW, Dr Hazel Wright, gyda’r panel ei hun yn cynnwys Aelod Seneddol Ceredigion, Ben Lake, a chynrychiolwyr o wahanol elusennau gwledig, fel y DPJ Foundation, Tir Dewi a RABI.

Blaenoriaethu iechyd meddwl

Ar drothwy’r digwyddiad, mae Emma Picton-Jones, sylfaenydd y DPJ Foundation, wedi canmol yr undeb am roi iechyd meddwl ar “flaen yr agenda”.

“Fel un sydd wedi cael ei magu ar fferm laeth, dw i wedi gweld gyda’m llygaid fy hun y dinistr y gall TB ei achosi, ac fel elusen rydyn ni’n clywed mwy a mwy am achosion o bobol yn methu delio â’r pwysau y mae diagnosis TB yn ei roi ar eu hiechyd meddwl a’u lles,” meddai.

“Mae hwn yn gyfle da i roi’r mater ar flaen meddyliau pobol ac i annog y diwydiant i ystyried effeithiau’r epidemig ofnadwy hwn.”