Fydd deddfwriaeth sy’n cynnig newid system daliadau’r diwydiant amaeth yng Nghymru ddim yn cael ei chyflwyno tan o leiaf 2021.

Roedd Llywodraeth Cymru, yn wreiddiol, wedi gobeithio trawsnewid y system, sef symud oddi ar gymorthdaliadau’r Undeb Ewropeaidd, fesul dipyn ar ôl Brexit.

Ond erbyn hyn, mae’n annhebygol y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno’r ddeddfwriaeth angenrheidiol tan ar ôl etholiadau’r Cynulliad ymhen dwy flynedd.

Mae disgwyl oedi hefyd o ran cyflwyno mesurau i ddiogelu’r amgylchedd, wrth i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain barhau i gynnal trafodaethau â’i gilydd.

Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn cyflwyno ei raglen ddeddfwriaethol ar gyfer y flwyddyn i ddod yn y Cynulliad heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 16).

Croeso brwd

Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn cynnal ei hail ymgynghoriad ar gynlluniau ôl-Brexit ar gyfer y diwydiant amaeth – o’r enw Ffermio Cynaliadwy a’n Tir.

Bydd yr ymgynghoriad hwnnw – sy’n cynnig taliadau i ffermwyr am waith amgylcheddol – yn dod i ben ar ddiwedd mis Hydref, sef diwrnod cyn y mae disgwyl i wledydd Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud y “penderfyniad cywir” drwy ohirio’r ‘Bil Amaeth i Gymru’.

“Rydyn ni wedi bod yn dadlau ers y refferendwm Brexit yn 2016 y dylai polisïau newydd gael eu creu yn ofalus gan ystyried yr awyrgylch masnachol posib fydd yn wynebu ein ffermwyr ar ôl Brexit,” meddai llywydd yr undeb, Glyn Roberts.

Mae Plaid Cymru hefyd wedi croesawu’r penderfyniad, gan ei alw’n “dro pedol”.

“Rydyn ni wedi bod ar ein pennau ein hunain yn y Cynulliad yn galw ar y Llywodraeth i adael i bethau tawelu ar ôl Brexit cyn cyflwyno deddfwriaeth ar gyfer y newid ‘unwaith mewn cenhedlaeth’ hwn i daliadau amaethyddol,” meddai Llyr Huws Gruffydd, llefarydd y blaid ar faterion amaeth.