Mae stryd yn nhref Harlech wedi cael ei enwi fel y serthaf yn y byd yn dilyn ymgyrch gan bobol leol.

Ffordd Pen Llech sydd wedi cipio’r teitl ar ôl cael cadarnhad swyddogol fod ganddi raddiant o 37% – dwy radd yn fwy serth nag allt yn Seland Newydd.

Mae’r Guinness World Records yn cyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Gorffennaf 16) bod y stryd wedi cipio’r teitl oddi ar Baldwin Street yn ninas Dunedin yn Seland Newydd, sydd ar raddiant o 35%.

Mae busnesau lleol wedi bod yn ffynnu ar yr allt honno’r ochr arall i’r byd ers dwy flynedd ar ôl ennill y teitl ac mae hi wedi cael cryn sylw ar y cyfryngau cymdeithasol,

Mae Ffordd Pen Llech yn rhedeg heibio Castell Harlech, rhesi o dai, siop, parc carafanau, siop golchi dillad, a bwyty.

“Mwy o ymwelwyr”

Yn ôl Glyn Roberts, sy’n berchen ar Fwyty Castle Cottage: “Doedden ni ddim yn sylweddoli mai hon oedd y stryd fwyaf serth yn y byd, ond mae’n serth iawn ac mae’n ddechrau da wrth gerdded i fyny ac i lawr y bryn.

“Mae’n rhan hyfryd o’r byd, ac ni all cael yr anrhydedd ychwanegol hwn wneud dim ond da i’r dref a dod â mwy o bobol i mewn.”