Mae un o gantorion enwoca’ Cymru yn gwadu iddo wneud sylw hiliol am Fwslimiaid yn ystod gig yn nhref Caernarfon dros y Sul – er bod cantores arall wedi cerdded allan o’r digwyddiad oherwydd yr hyn ddywedodd.

Roedd Meic Stevens yn perfformio i gynulleidfa fawr yn Neuadd y Farchnad yn ystod Gŵyl Arall ddydd Sul (Gorffennaf 14) oan wnaeth sylw am y nifer o Fwslimiaid oedd ar fws yng Nghaerdydd tra’r oedd yn mynd i gasglu ei wyres o’r ysgol.

Yna, fe rybuddiodd y gynulleidfa, “Fe fyddan nhw yng Nghaernarfon cyn hir.”

Cerdded allan 

Yn ôl y gantores Sera Owen, sy’n enedigol o Gaernarfon ac yn un o artisitiaid y prosiect cerddoriaeth Gorwelion eleni, fe gerddodd hi a’i chariad allan o’r neuadd wedi i Meic Stevens sôn am ei brofiad ar y bws yng Nghaerdydd.

“Oedd hi’n gig dda, ac mi oedd pawb yn joio, ond tua diwedd y gig dyma fo’n dechrau sôn am fod ar fws yng Nghaerdydd ac mai dim ond pedwar person gwyn oedd ar y bws,” meddai Sera Owen wrth golwg360.

“Wnaeth o ddeud bod Mwslimiaid ar y bws yna, a wnaeth o ddeud rwbath fel ‘fe fyddan nhw yma yng Nghaernarfon cyn bo hir’.”

Mae’n dweud fod awyrgylch “reit anodd” yn y lle wedi iddo wneud ei sylwadau.

Meic Stevens “fel Morrisey”

Mae post arall ar Facebook, gan y cerddor Gorwel Roberts, yn cyhuddo’r canwr o hiliaeth, ac yn dweud na fydd yn mynd i weld Meic Stevens yn perfformio eto. 

https://www.facebook.com/gorwel.roberts/posts/10157347304389941

Meic Stevens yn gwadu

Mae Meic Stevens yn gwadu wrth golwg360 ei fod yn hiliol, ond yn cyfaddef ei fod wedi sôn am “Fwslimiaid ar fws ysgol” pan yn nôl ei wyres o’r ysgol yng Nghaerdydd.

Mae’n dweud nad oedd wnaeth sylw am Fwslimiaid “yng Nghaernarfon cyn bo hir” o gwbwl, ac dweud nad oes ganddo sylw pellach i’w wneud ar y mater.