Mae dau berson wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â marwolaeth dyn, 50, yn Ystalyfera dros y penwythnos.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Maes y Darren toc wedi 10.30yh neithiwr (nos Sul, Gorffennaf 15) yn dilyn adroddiadau am ddyn ag anafiadau.

Mae dyn, 48, a dynes, 38, wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio yn dilyn y digwyddiad.

Yn ôl Heddlu De Cymru, mae’r ymchwiliad yn parhau.