Mae newyddiaduriaeth Gymraeg yn “dlotach” heb Gwilym Owen, yn ôl y newyddiadurwr a’r cyn-gynhyrchydd teledu, Vaughan Hughes.

Pan gafodd Gwilym Owen ei benodi’n Bennaeth Newyddion a Materion Cyfoes HTV yn 1970, y cyntaf iddo benodi  swydd gohebydd rhaglen Y Dydd oedd y Vaughan Hughes ifanc.

Ac yn ôl Vaughan Hughes ei hun, fe fydd yn “fythol ddiolchgar” i Gwilym Owen am roi’r cyfle cyntaf iddo ym myd darlledu Cymraeg.

Mae’n cofio ei gyn-bennaeth fel newyddiadurwr a oedd ag “awydd angerddol” i wasanaethu’r Cymry Cymraeg.

“Roedd o yr un mor hapus ym Mhontyberem a Phont-iets ag yr oedd o yn Llanberis neu Langefni,” meddai Vaughan Hughes wrth golwg360.

“Doedd yna ddim yr hen lol ‘de a’r gogledd’ efo Gwilym. Y Cymry Cymraeg oedd ei diriogaeth o, ac roedd o’n ystyried mai gwasanaethu’r Cymry Cymraeg oedd ei fraint o, a dyna a wnaeth o ar hyd ei oes.”

“Wrth ei fodd yn tynnu pobol am ei ben”

Er gwaethaf y ddelwedd “ymosodol, galed”, roedd Gwilym Owen hefyd yn “ddyn ffraeth a doniol iawn,” meddai Vaughan Hughes.

“Y fo ydy’r unig berson i fod yn bennaeth newyddion a materion cyfoes y BBC ac HTV,” meddai. “Dydach chi ddim yn gwneud hynny drwy fod yn ddim byd ond prociwr a phryfociwr.

“Ond mi roedd Gwilym wrth ei fodd yn tynnu pobol am ei ben, a heddiw mi fydd yna lawer iawn o bobol sydd wedi anghytuno’n ffyrnig efo Gwilym Owen, yn dal i deimlo bod newyddiaduriaeth Gymraeg yn dlotach hebddo.”