Mae ymgeisydd am gadeiryddiaeth Plaid Cymru wedi dweud y byddai aelodau cangen Llanelli a Neil McEvoy yn cael eu croesawu yn ôl pe bai ef wrth y llyw.

Alun Ffred Jones yw Cadeirydd presennol y Blaid, a dan ei arweiniad ef mae cangen gyfan wedi’i diarddel, ac Aelod Cynulliad wedi’i wahardd.

Mae Dr Dewi Evans wedi cael ei enwebu gan Gangen Gorllewin Caerdydd i geisio am y gadeiryddiaeth, mae’n dweud y byddai’n gwyrdroi’r gwaharddiadau hyn oll pe yn cael ei benodi.

“Mae’n ddigon anodd i gael aelodau i ymuno ag unrhyw blaid – gan gynnwys Plaid Cymru,” meddai wrth golwg360. “Y peth diwetha’ y dylwn wneud yw taflu pobol mas am anghytuno gyda’r drefn.

“Un o’r pethau dw i eisiau pwysleisio yw hyn: Mae’n bryd i ni, ac mae’n rhai i ni, ddod at ein gilydd…

“Mi fydden i’n gobeithio bod y 40 a ymddiswyddodd yn Llanelli yn dod yn ôl i’r Blaid. A bod y pedwar sydd wedi’u taflu mas yn cael ailymuno…

“Ac mae peidio cael rhywun â doniau [Neil McEvoy] o fewn eich plaid, neu dowlu nhw mas am resymau plentynnaidd, yn sarhad arnom ni fel plaid ddemocrataidd agored.”

Mae’n dweud y byddai dim ond yn atal pobol rhag bod yn aelodau os ydyn nhw’n aelodau o blaid arall, os ydyn nhw wedi cyflawni “trosedd ddifrifol”, neu os ydyn nhw’n arddel “daliadau hiliol”.

Y gwaharddiadau

Cafodd cangen cyfan Plaid Cymru yn nhref Llanelli eu diarddel “dros dro” ym mis Chwefror y llynedd ar ôl cael eu cyhuddo gan y Blaid o “dorri [eu] rheolau sefydlog”.

Roedd ambell unigolyn wedi cael eu gwahardd cyn hynny, ac erbyn mis Mai’r llynedd roedd dwsinau wedi cefnu ar Blaid Cymru yn llwyr.

Wrth wraidd y gynnen rhwng y ddwy ochr oedd ffrae tros bwy ddylai fod yn ymgeisydd tros Lanelli yn etholiad cyffredinol 2017.

Mae Dewi Evans yn dweud bod beth ddigwyddodd yn Llanelli yn “hollol anghyfrifol” a dylai’r Blaid fod wedi delio â phethau mewn ffordd “hollol wahanol”.

Cafodd yr Aelod Cynulliad ei wahardd ym mis Mawrth 2018 ar ôl iddo “dorri cyfres o reolau sefydlog y blaid” ac ym mis Mawrth eleni cyflwynodd gais i ailymuno.

Fis diwethaf cafodd y panel a fu’n ystyried ei gais ei ddisodli – wedi i fanylion am ei waith gael ei ollwng i’r Wasg – a dydd Mercher (Gorffennaf 10) mi gyhoeddodd Neil McEvoy na fyddai’n parhau â’i gais.

Mae Dewi Evans yn credu bod “rhan allweddol” gyda Neil McEvoy i’w gyfrannu yn ymgyrchydd i’r Blaid.

Y gadair a’r ymgeisydd

Mae swydd y Cadeirydd yn para am gyfnodau o ddwy flynedd ac mae yna gyfle i ymgeiswyr drio am y rôl pob dwy flynedd.

Rhaid i’r ymgeisydd gael ei enwebu gan etholaeth ac mae modd cael eich enwebu gan fwy nag un etholaeth.

Bydd y Cadeirydd yn cael ei ddewis yn dilyn hystings a phleidleisiau gan aelodau’r Blaid; a bydd y rheiny’n cael eu cynnal yng nghynhadledd y blaid yn Abertawe ar ddechrau mis Hydref.

Mae Dewi Evans wedi bod yn aelod o’r blaid ers y 1970au diweddar, ac mae wedi bod yn gynghorydd cymuned a sir yn ardal Castell-Nedd.

Mae wedi sefyll ddwywaith tros y blaid yng Nghastell-nedd mewn etholiadau cyffredinol – safodd yn erbyn Peter Hain yn yr 1990au.

Mater McEvoy wedi “dod i derfyn”

Mae ffynhonnell o Blaid Cymru yn dweud bod y Blaid ar ei chryfaf yn Llanelli ers “dechrau’r Cynulliad” a’u bod wedi profi “cynnydd net” yn nifer aelodau’r etholaeth honno.

Does gan y Blaid ddim byd pellach i’w ddweud am Neil McEvoy, meddai, ac mae’n nodi bod y mater hwnnw wedi “dod i derfyn”.

Ac mae’r ffynhonnell wedi cadarnhau y bydd Alun Ffred Jones yn sefyll am gadeiryddiaeth y blaid unwaith eto.