Roedd Gwilym Owen yn newyddiadurwr a oedd “bob amser yn ddifyr”, meddai Dafydd Iwan, sy’n cyfaddef na fu’r ddau’n “ffrindiau pennaf” ar hyd y blynyddoedd.

Daeth y canwr a’r ymgyrchydd i gysylltiad â’r Monwysyn yn nyddiau rhaglen ddyddiol Y Dydd yn yr 1960au, lle’r oedd Gwilym Owen yn aelod o’r tîm cynhyrchu a Dafydd Iwan yn gyfrannwr cyson.

Yn ôl Dafydd Iwan, doedd Gwilym Owen ac yntau ddim yn “gweld llygaid yn llygaid” ar nifer o faterion, gyda’r ddau’n ei gweld hi’n “haws i ddadlau nag i gytuno”.

Ond mae’n ychwanegu bod gan y ddau “barch” at ei gilydd, ac roedd derbyn gwahoddiad i fod yn westai ar un o raglenni olaf Wythnos Gwilym Owen ar Radio Cymru yn enghraifft o hynny, meddai.

“Procio’n gyson”

“Y peth mwyaf oedd gen i yn erbyn Gwilym oedd bod gynno fo ei hoff dargedau, ac roedd o byth a hefyd yn taro yn erbyn yr Eisteddfod, y Blaid, yr Urdd ac S4C,” meddai Dafydd Iwan wrth golwg360.

“Hynny yw, roedd o’n credu ein bod ni wedi creu buchod sanctaidd o’r pethau hynny. Roedd hynny, dw i’n meddwl, yn ei ddallu o rhag gweld eu cryfderau nhw.

“Ond, ar y llaw arall, mae angen pobol i daro yn erbyn y targedau yma rhag inni wneud buchod sanctaidd ohonyn nhw.

“Mae’n bosib dadlau bod rhywun fel Gwilym, sy’n procio’n gyson, yn gwneud lles yn y pen draw.”