Mae Prifysgol Bangor yn addo cyflwyno trefn newydd fydd yn caniatáu i staff fwcio gwyliau yn Gymraeg.

Ar hyn o bryd mae staff adran yr Ysgol Addysg yn gorfod gofyn am yr hawl i gymryd gwyliau yn Saesneg, ac mae un darlithydd wedi cysylltu gyda chylchgrawn Golwg i gwyno am hynny.

“Nid yw staff yn cael defnyddio eu Cymraeg yn ddyddiol… mae hyn yn groes i’r deg egwyddor ym mholisi iaith y sefydliad,” meddai’r darlithydd sydd am aros yn anhysbys oherwydd ei fod yn ofni y bydd yn colli ei swydd.

Mae yn dweud bod rheolwyr y brifysgol yn “gwneud i staff Cymraeg eu hiaith edrych fel y rhai sy’n afresymol ac yn codi twrw”.

Addewidion y brifysgol

Yn ôl y ddogfen Egwyddorion Polisi Iaith Gymraeg Prifysgol Bangor mae’r sefydliad yn ‘annog ac yn cefnogi myfyrwyr, staff ac eraill i ddefnyddio’r Gymraeg’.

Hefyd mae yn addo bod ‘staff yn cael eu hannog ac yn cael y cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith… gyda’r nod o gynyddu defnydd o’r Gymraeg yng ngweithleoedd y Brifysgol…

‘Bydd ein polisïau, ein cynlluniau a’n prosiectau yn ystyried yn llawn sut i roi lle canolog a naturiol i’r Gymraeg heb danseilio na defnydd o’r Gymraeg’.

Ond mae’r Ysgol Addysg, sy’n paratoi darpar athrawon, yn gofyn i staff ddefnyddio system gyfrifiadurol o’r enw ‘Leavewizard’ i gyflwyno cais am wyliau, ac mae yn rhaid gwneud hynny yn Saesneg.

Yn ôl llefarydd Prifysgol Bangor, maen nhw yn bwriadu newid y drefn fel bod modd bwcio gwyliau yn Gymraeg.

“Mewn perthynas â’r feddalwedd newydd a gyflwynwyd, er ei bod ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd, bydd yr Ysgol yn sicrhau y gall staff gyflwyno ceisiadau am wyliau blynyddol trwy gyfrwng y Gymraeg.”

Cwyno am “dargedu’r Gymraeg”

Mae Cymdeithas yr Iaith eisoes wedi cyhuddo Prifysgol Bangor o “dargedu’r Gymraeg” drwy gael gwared ar y swyddi dwyieithog yn yr Ysgol Addysg, a hefyd trwy dorri swyddi hyfforddi nyrsys dwyieithog yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd, cyn hysbysebu pedair swydd yno heb fod y Gymraeg yn hanfodol.

Mae swyddogion Comisiynydd y Gymraeg yn ymchwilio i benderfyniadau diswyddo staff Prifysgol Bangor.

“Rydym wedi derbyn cwynion am doriadau staffio academaidd ym Mhrifysgol Bangor,” meddai llefarydd y Comisiynydd.

“Rydym wedi agor ymchwiliad i un o’r materion y cwynir amdano ac yn ystyried y ffeithiau er mwyn i’r Comisiynydd ystyried agor ymchwiliad ar sail tystiolaeth a dderbyniwyd am fater arall.”

“Fydd y newidiadau [ddim] yn lleihau ein gweithgareddau cyfrwng Cymraeg”

Yn ymateb i’r pryderon am “dargedu’r Gymraeg”, dywedodd llefarydd Prifysgol Bangor:

“O ganlyniad i nifer o ffactorau, yn enwedig gostyngiad sylweddol yn nifer y myfyrwyr ar y cwrs Addysg Gychwynnol i Athrawon dros y blynyddoedd diwethaf, mae newidiadau yn cael eu gwneud ar hyn o bryd yn yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol sy’n cynnwys cynigion i leihau niferoedd staff.

“Mae hyn yn amlwg yn gyfnod anodd, ond bydd y newidiadau sy’n cael eu gwneud, a’r toriadau staff arfaethedig, yn helpu i sicrhau bod yr Ysgol yn datblygu’n ganolfan academaidd gref a chynaliadwy yn ariannol a fydd yn gwasanaethu Cymru am flynyddoedd i ddod. Dylid nodi hefyd na fydd y newidiadau yn lleihau ein gweithgareddau cyfrwng Cymraeg.”

Mwy am y stori yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon