Mae trefnwyr Sioe Sir Benfro wedi cyhoeddi mai dim ond ceffylau sydd wedi eu brechu yn erbyn y ffliw ceffylau fydd yn cael cystadlu eleni.

Mae hynny’n golygu y bydd yn rhaid i geffylau dderbyn y ddau frechiad sydd eu hangen i atal y feirws cyn y gallan nhw gael mynediad i faes y sioe yn Hwlffordd ar Awst 13, 14 a 15.

Yn ôl Cymdeithas Amaethyddol Sir Benfro, maen nhw wedi penderfynu newid eu polisi “er lles yr anifeiliaid”.

Cafwyd penderfyniad tebyg gan drefnwyr y Sioe Fawr yn Llanelwedd ddechrau’r wythnos, wrth i nifer yr achosion o’r ffliw ceffylau gynyddu yng Nghymru.

Yn fwy diweddar, mae achosion wedi cael eu cadarnhau yng Ngwynedd ac Ynys Môn, sydd wedi arwain at ohirio sawl sioe amaethyddol yn y gogledd, gan gynnwys Sioe Gogledd Cymru, Caernarfon, a oedd i fod i ddigwydd ar Orffennaf 6.

Mae trefnwyr Sioe Môn wedyn, sy’n cael ei chynnal ar Awst 13 a 14, wedi penderfynu gohirio’r holl adrannau’r ceffylau.