Mae ysgol gynradd yn ardal Ysralyfera wedi gorfod cau yn dilyn pryderon am dirlithriad.

Bydd Ysgol Godre’r Graig ar gau am weddill tymor yr haf ar ôl i arbenigwyr ganfod bod yna “risg lefel ganolig” o dip gwastraff gerllaw’r ysgol.

Mae’r risg, medden nhw, yn gysylltiedig â nant ger yr ysgol, ac mae pryderon y gall achosi tirlithriad mewn tywydd garw.

Dyw Cyngor Castell-nedd Port Talbot ddim wedi dweud pryd fydd yr ysgol yn ailagor, ond maen nhw am barhau i roi gwybodaeth i rieni ynglŷn â “datblygiadau a threfniadau i adleoli’r holl ddisgyblion a staff i safle amgen yn barod ar gyfer mis Medi,” medden nhw.

“Hoffwn bwysleisio ein bod ni’n deall mor anferth yw’r penderfyniad hwn, ond rhaid i ddiogelwch ein plant, ein staff a’n preswylwyr fod, nawr, fel bob amser, yn flaenoriaeth i’r Cyngor,” meddai’r Cynghorydd Rob Jones, Arweinydd y Cyngor.

“Mae gennym ofidiau am y darganfyddiadau cychwynnol, sydd wedi cydnabod risg ganolig o berygl sy’n gysylltiedig â gwastraff o chwarel uwchlaw’r ysgol, ac er y bydd angen gwneud gwaith ymchwilio pellach, rydym ni wedi penderfynu, fel mesur fydd yn carco diogelwch y plant, i gau’r ysgol yn gynnar cyn gwyliau’r haf.”