Mae Neil McEvoy wedi cyhoeddi llythyr y mae wedi’i anfon at Plaid Cymru yn dweud na fydd yn parhau â’i gais i gael ei dderbyn yn ôl.

Mewn datganiad ar ei wefan, mae’n dweud mai “gwaharddiad parhaol fyddai unig ganlyniad” y gwrandawiad i ystyried ei gais – ac y byddai hynny, mae’n amau, yn arwain at “waharddiad parhaol”.

Dywed mai deuddydd yn unig cyn cyfarfod panel y cafodd wybod fod ganddo’r hawl i gynrychiolaeth gyfreithiol, ac mae’n dweud na chafodd y panel ei ddewis tan ddiwrnod cyn y gwrandawiad, a bod gan rai o’r aelodau “atgasedd blaenorol” tuag ato.

Mae hefyd yn dweud y byddai galluogi panel i’w wahardd yn “niweidio a rhannu Plaid Cymru a’r mudiad cenedlaethol Cymreig ar adeg pan fod angen iddo ddod ynghyd”.

Cefnogaeth a pherfformiad

Mae’r datganiad yn egluro bod yna “ddryswch” ynghylch y penderfyniad i’w wahardd ac ynghylch y broses o geisio ail-ymuno â Phlaid Cymru.

Ond mae’n dweud bod cefnogwyr ar lawr gwlad wedi gweld ei ymdrechion i gynyddu aelodaeth y blaid ac ennill etholiadau yng Nghaerdydd.

“Dw i ddim yn fodlon troi fy nghefn ar yr aelodau hyn a galluogi panel dewisiedig o bobol a chanddyn nhw atgasedd blaenorol tuag ataf i’m gwahardd yn barhaol”.

Mae’n mynd yn ei flaen i ddweud na all e na Phlaid Cymru “barhau i chwarae gemau a gadael i faterion personol ein rhannu”.

Yn ei lythyr, mae’n egluro nad yw am ail-ymuno â Phlaid Cymru am ddau reswm – “absenoldeb cyfiawnder naturiol” ac “absenoldeb proses”.

Y llythyr yn ei gyfanrwydd

I ddarllen llythyr Neil McEvoy, ewch i’w wefan trwy’r linc hwn.