Mae’r crwner yn y cwest i farwolaeth Carl Sargeant wedi gwrthod cais i glywed tystiolaeth am ei gamymddygiad rhywiol.

Cyfreithwyr Carwyn Jones, cyn-brif weinidog Cymru, oedd wedi cyflwyno’r cais i’w gwest yn Rhuthun.

Cafwyd hyd i gorff y cyn-Weinidog Cymunedau a Phlant yn ei gartref yng Nghei Conna ar Dachwedd 7, 2017, ddyddiau’n unig ar ôl iddo gael ei ddiswyddo yn sgil yr honiadau.

Roedd y cyfreithwyr am alw Aaron Shotton, cyn-arweinydd Cyngor Sir y Fflint, a allai fod wedi gwrthddweud tystiolaeth Bernie Sargeant, ei weddw.

Roedden nhw’n honni nad oedd ei thystiolaeth yn gyflawn, ond cafodd eu cais ei wrthod ar y sail ei fod yn gais “tactegol”.

Cafodd cais blaenorol i glywed y dystiolaeth, sy’n cynnwys negeseuon ffôn yn ymwneud â’i ymddygiad, ei wrthod gan yr Uchel Lys yn gynharach eleni, ac mae’r cais diweddaraf hwn yn “ymgais arall” i glywed y dystiolaeth honno, meddai’r crwner.

Cefndir

Clywodd y cwest fod Bernie Sargeant yn ymwybodol o un llythyr am ymddygiad ei gŵr yn 2014, oedd yn honni na ddylai fod yng nghwmni menywod.

Ond mae cyfreithwyr yn dadlau bod tystiolaeth Aaron Shotton yn awgrymu bod yna ail lythyr.

Dywedodd mewn datganiad fod Bernie Attridge, cyd-gynghorydd Llafur, wedi dweud wrtho fod Carl Sargeant wedi derbyn llythyr di-enw yn honni iddo gael ei weld mewn gardd tafarn gyda dynes.

Dywedodd Aaron Shotton hefyd fod yna awgrym o ddigwyddiad ar noson ei briodas, er nad oedd e’n dyst i’r digwyddiad honedig hwnnw.

Fe fu’r cyfreithwyr yn dadlau y byddai clywed y dystiolaeth yn gymorth i benderfynu a yw Bernie Sargeant yn dyst dibynadwy.

Wrth ymateb, dywed cyfreithiwr teulu Carl Sargeant mai sïon yn unig fyddai tystiolaeth Aaron Shotton.