Fydd cwmni theatr cymunedol ddim yn symud eu pencadlys o Gaernarfon i hen dafarn yn Nyffryn Nantlle.

Mae pencadlys Theatr Bara Caws ar hyn o bryd mewn uned ar stad ddiwydiannol Cibyn yng Nghaernarfon, ac ym mis Mawrth eleni, fe gyhoeddodd y cwmni ei fod am wneud ei gartref newydd yn adeilad yr hen Victoria Hotel yng nghanol pentref Pen-y-groes.

Mae’r dafarn yn Stryd yr Wyddfa wedi bod yn wag ers blynyddoedd ac wedi mynd â’i ben iddo, ond bwriad y theatr oedd codi £30,000 er mwyn ei brynu a’i droi’n gartref newydd.

Ond ni fydd hynny’n digwydd bellach, er bod golwg360 yn deall bod y cwmni yn dal yn awyddus i ddod o hyd i leoliad arall yn y pentref.

Dydi Theatr Bara Caws ddim yn dymuno gwneud sylw ar y mater, ar hyn o bryd.